Cael cymorth nawr

English | Cymraeg

Os ydych chi’n meddwl eich bod chi’n yfed gormod, mae cymorth ar gael. Dyma rai o’r posibiliadau sydd ar agor i chi.

Asesu faint rydych chi’n ei yfed

Os ydych chi’n poeni am faint rydych chi’n ei yfed, neu eisiau gwybod mwy, gwnewch ein cwis yfed er mwyn gweld oes angen i chi dorri’n ôl neu beidio.

Rydyn ni wedi gosod ychydig o gwestiynau syml am eich arferion yfed, fel pa mor aml rydych chi’n yfed a faint yfwch chi mewn wythnos arferol.

Dyw llawer ohonon ni ddim yn sylweddoli faint rydyn ni’n ei yfed. Trwy wneud y cwis cyflym yma cewch chi weld pa mor iachus yw eich arferion yfed chi.

Gwnewch y cwis (Saesneg yn unig)

Os sgoriwch chi 15 neu ragor, efallai byddai’n syniad da i chi drafod y mater gyda’ch doctor neu’ch gwasanaeth alcohol lleol, oherwydd gallech chi elw o yfed llai. Os yw eich sgôr yn 20 neu fwy, mae perygl i chi ddod yn ddibynnol ar alcohol, a’n cyngor ni yw i chi siarad â’ch doctor neu’ch gwasanaeth alcohol lleol cyn gynted â phosibl, er mwyn trafod ffyrdd i chi yfed llai.

Cael cymorth

Ble bynnag rydych chi’n byw, bydd gwasanaeth yn eich bro sy’n cefnogi pobl gyda phroblemau alcohol. Mae sawl ffordd gallwch chi gael cymorth:

  • Eich doctor eich hunan yw’r lle gorau i ddechrau. Byddan nhw’n gallu rhoi cyngor cyfrinachol i chi, a dweud wrthych chi ble i fynd am ragor o gymorth.
  • Bydd gwybodaeth am wasanaeth lleol ar wefan eich awdurdod lleol
  • Mae sawl rhestr ar-lein o wasanaethau alcohol y Gwasanaeth Iechyd Gwladol mewn gwahanol rannau o Brydain:

Ansicr am beth yw gwasanaethau alcohol neu ba fath sy’n iawn i chi?

Dysgwch fwy am wasanaethau alcohol

Cymorth ar-lein neu drwy ffôn

Gallwch chi hefyd gael cymorth o bell:

  • Os ydych chi’n poeni am faint rydych chi’n ei yfed, neu’n poeni am rywun arall, gallwch chi ffonio Drinkline yn ddi-dâl ac yn gwbl gyfrinachol. Ffoniwch 0300 123 1110 (Dydd Llun i Ddydd Gwener 9am tan 8pm, penwythnosau 11am tan 4pm).
  • Os ydych chi’n byw yng Nghymru, gallwch chi gysylltu â’r llinell gymorth ar alcohol a chyffuriau, DAN 24/7, unrhyw adeg o’r dydd neu’r nos. Rhadffôn: 0808 808 2234, neu tecstiwch DAN at: 81066.
  • Mae llinell gymorth Alcoholigion Anhysbys ar gael bob awr o’r dydd a’r nos ar 0800 9177 650. Neu gallwch chi e-bostio at help@aamail.org neu siarad â rhywun yn fyw trwy eu gwefan www.alcoholics-anonymous.org.uk.
  • Mae Al-Anon yn cynnig cefnogaeth a dealltwriaeth i ffrindiau a theuluoedd pobl sy’n goryfed. Mae llinell gymorth gyfrinachol ar 020 7403 0888 (ar agor 10am-10pm)
  • Mae gwefan NHS Choices yn rhoi cyngor a gwybodaeth am alcohol.