Agor y drws

English | Cymraeg

11 Gorffennaf 2024
09:30 - 13:10
£35 + TAW Book now

Deall alcohol, cam-drin domestig, a thrawma yn well

Seiat ddysgu ar-lein gydag Alcohol Change UK

09:30 tan 13:10, Dydd Iau 11 Gorffennaf 2024

Mae alcohol a cham-drin domestig yn mynd law yn llaw yn aml, ac mae’n hollbwysig i wasanaethau sy’n cynnig triniaeth alcohol, a rhai sy’n cynnig cymorth ynglŷn â cham-drin domestig, gydweithio’n effeithiol er mwyn lleihau niwed.

Yn y seiat ddysgu ar-lein yma, byddwn ni’n ystyried y berthynas gymhleth rhwng alcohol a cham-drin domestig, ac yn helpu gweithwyr yn y ddau faes i deall beth gallan nhw ei wneud i adnabod anghenion a cheisio atebion.

Mae'r siaradwyr gwadd yn cynnwys:

  • Liz Gilchrist a Gail Gilchrist, yn trafod sut gall gwasanaethu sy’n cynnig triniaeth am alcohol weithio’n ddiogel gyda dynion sy’n dreisgar at eu partneriaid
  • Carie Bower, ar gam-drin domestig ymhith pobl hŷn
  • Tina Fahm, ar wneud cymorth cam-drin domestig yn berthnasol i ferched duon a lleiafrifoedd eraill
  • Mark Brooks, ar gefnogi dynion sy’n wynebu cam-drin domestig

Darllenwch yr agenda llawn yma