Yn aml, dulliau ymdopi ar gyfer gofid yw yfed a hunan-niwed, ac maen nhw ill dau yn deillio’n aml o drawma.
Anaml y bydd problemau alcohol yn syml. Gallan nhw ddeillio o drawma’r gorffennol neu rwystredigaethau’r presennol. Efallai bydd cysylltiadau rhyngddynt a phroblemau iechyd eraill, neu anawsterau mewn cydberthnasau a phobl eraill. Gallan nhw gyd-ddigwydd â phob un o’r pethau eraill hyn, eu hachosi, neu ddod yn eu sgîl. Yn aml, nid oes modd datblethu’r cymhlethdod hwn a danfon rhywun at gyfres o wasanaethau i ddatrys pob problem fesul un – materion alcohol fan hyn, iechyd meddwl fan draw, ac ati. Er mwyn gweithio’n dda, mae rhaid i wasanaethau gydnabod y person cyfan a’i gefnogi.[i] Mae’r berthynas rhwng alcohol a hunan-niwed yn enghraifft eglur o’r fath gymhlethdod, ac mae ymchwil a gomisiynwyd gan Alcohol Change UK wedi dangos:
- Cysylltiad clir ond cymhleth rhwng alcohol a hunan-niwed ym mywydau rhai pobl
- Bwlch rhwng gwasanaethau ar gyfer hunan-niwed (ac iechyd meddwl yn gyffredinol) a rhai ar gyfer problemau alcohol – blwch mae rhai pobl fregus iawn yn cwympo drwyddo
- Patrwm o beidio â diwallu anghenion cymhleth, ac o bobl yn cuddio cymhlethdod eu hanghenion (trwy beidio â datguddio eu hunan-niwedd neu’u harferion yfed) er mwyn cael eu derbyn gan wasanaethau.[ii]
At hynny, mae ein trafodaethau gyda gweithwyr ym meysydd alcohol a hunan-niwed yn awgrymu bod gwasanaethau yn y ddau faes yn gweld pobl gyda meddyliau, teimladau ac arferion hynod debyg i’w gilydd, gan fod y ddau ymddygiad – yfed a hunan-niweidio – yn aml yn ddulliau ymdopi ar gyfer gofid tebyg iawn. Yn bôn, nid ydynt mor wahanol i’w gilydd ac roeddem ni’n tybio, ac maen nhw ill dau yn deillio’n aml o drawma a thrallod.
Yn y llawlyfr hwn, rydym ni wedi ceisio cloriannu profiadau pobl sydd yn yfed ac yn hunan-niweidio neu wedi bod yn gwneud; a chynnig ychydig gynghorion ar sut gall gwasanaethau eu cefnogi’n well. Ein disgwyl yw mai gweithwyr gwasanaethau alcohol a chyffuriau, a rhai ar gyfer hunan-niwed, fydd prif ddarllenwyr y llawlyfr. Ond dylai fod yn ddefnyddiol i amryw wasanaethau sy’n cynorthwyo pobl sy’n wynebu’r ddau her hyn: gwasanaethau cymdeithasol, y gwasanaethau brys, ysgolion a cholegau, meddygfeydd ac ysbytai, a chyrff gwirfoddol a chymunedol sy’n cynnal pobl fregus.
Nid y llawlyfr hwn yw’r gair olaf ar y mater. Bydd rhaid i bob gweithiwr farnu’n broffesiynol sut i addasu orau at anghenion pobl. Yr hyn sydd yma yw crynodeb o’r hyn mae pobl gyda phrofiad o broblemau alcohol a hunan-niwed wedi dweud y byddai’n fuddiol iddyn nhw, ac o’r hyn a fu’n fuddiol ym marn nifer o weithwyr yn y ddau faes.
Ein gobaith yw y bydd y llawlyfr hwn yn helpu gweithwyr gwasanaethau alcohol a hunan-niwed, a rhai eraill, i fod yn fwy hyderus a mwy medrus wrth ymdrin yn holistig â’r garfan hon o bobl, ac felly sicrhau gwell canlyniadau iddyn nhw. Gobeithiwn hefyd y bydd yn sbarduno mwy o gydweithio a chyd-ddeall rhwng gwasanaethau, gan wireddu’r weledigaeth na fydd “yr un drws anghywir” gan y bydd “pob drws yn y…system yn arwain at y gwasanaethau angenrheidiol”.[iii] Gan fod hunan-niwed ac yfed niweidiol ill dau, yn ôl pob golwg, wedi cynyddu ymhlith rhai o’r bobl fwyaf bregus yn y blynyddoedd diwethaf, credwn fod hyn yn bwysicach nag erioed.[iv], [v], [vi]
Hwn yw’r argraffiad cyntaf o’r llawlyfr hwn. Mawr obeithiwn nad hwn fydd yr un olaf ac y bydd fersiynau newydd wrth i ni ddysgu mwy. Mae’r llawlyfr ar gael o’n gwefan yn rhad ac am ddim yn Gymraeg a Saesneg. Os bydd gennych unrhyw sylwadau neu gwestiynau amdano, neu os credwch fod rhywbeth y dylem ei ychwanegu, ei dynnu, neu’i ddiwygio, peidiwch ag oedi cyn cysylltu â ni i rannu eich barn a’ch syniadau. Mae croeso i bobl ymateb yn Gymraeg neu Saesneg.
Er mwyn trefnu hyfforddiant i’ch sefydliad chi ar sut i ymdrin yn well â phroblemau alcohol a hunan-niwed, cysylltwch â training@alcoholchange.org.uk.